Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

 

Ariannu'r trydydd sector - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Y Modd y mae Awdurdodau Lleol yn Ariannu Gwasanaethau’r Trydydd Sector.'

 

Dywedodd Mr Ramsay:

 

“Croesewir yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar awdurdodau lleol yn ariannu gwasanaethau'r trydydd sector.

 

"Mae'r trydydd sector yn chwarae rôl arwyddocaol ar draws nifer o gymunedau yng Nghymru yn cefnogi'r celfyddydau, yn helpu'r tlawd, yn gofalu am yr henoed ac yn darparu cysylltiad pwysig rhwng dinasyddion a'r wladwriaeth.

 

"Mae'r adroddiad yn darparu gwerthusiad manwl o'r trefniadau ariannu presennol ac yn nodi ystod o wendidau y mae angen mynd i'r afael â hwy os bydd awdurdodau lleol am wella'r gwerth am arian o'u buddsoddiad a bodloni dyheadau deddfwriaeth ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sy'n rhagweld rôl gynyddol ar gyfer y trydydd sector.

 

"Rwy'n arbennig o falch bod yr Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi cyhoeddi adnodd hunanwerthuso fel rhan o'i adroddiad ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol, aelodau etholedig a sefydliadau'r trydydd sector i'w ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu dewisiadau ariannu.

 

"Bydd hyn yn mynd yn bell er mwyn helpu i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad a bydd yn cryfhau'r perfformiad presennol."